Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gall unrhyw un ymuno â'r llyfrgell am ddim ac fel aelod o'r llyfrgell gallwch wneud y gorau o'n hamrywiaeth o lyfrau ffisegol ac adnoddau electronig. Gallwch wneud hyn ar-lein neu yn bersonol yn unrhyw un o'n Hybiau a'n llyfrgelloedd. Pan fyddwch chi'n ymuno yn bersonol, bydd angen i chi ddangos prawf o ID. Os ydych chi o dan 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o ID a llofnodi'r cais.