Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli neu redeg elusen, menter gymdeithasol neu grŵp cymunedol. Gall C3SC eich helpu i wirfoddoli yn eich cymuned leol. Mae gennym gannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli, y gallwch gael mynediad iddynt ar borth Gwirfoddoli Cymru: gwirfoddolicymru.net. Gall sefydliadau trydydd sector ymuno yn rhad ac am ddim fel aelodau ar: https://membership.c3sc.org.uk/become-a-member/ a derbyn cymorth cynhwysfawr parhaus.
I gael gwybod mwy, ffoniwch ni ar 029 2048 5722 neu e-bostiwch enquiries@c3sc.org.uk.