skip to main content

Gwasanaeth Llywyr Cymunedol - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 08/09/2025
Iechyd Cymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae pedwar o Lywyr Cymunedol y Groes Goch Brydeinig yn gweithio ledled Sir Ddinbych i gefnogi llesiant y bobl sy’n byw yno.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

· Cyfeirio at gymorth trydydd sector y gallwch ei gael.

· Cysylltu pobl â’r hyn sydd yn eu cymuned.

· Rhoi gwybodaeth i ddinasyddion - i'ch helpu i gymryd camau i wella iechyd a llesiant.

· Cwrdd â dinasyddion mewn digwyddiadau neu grwpiau cymdeithasol - am gyfnod byr i’w helpu i fagu hyder.

Rydym yn derbyn hunan-atgyfeiriadau, atgyfeiriadau gan deuluoedd neu atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol, pa un bynnag sydd fwyaf cyfforddus i’r bobl y mae angen ein cymorth arnynt.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn teimlo’n unig, neu os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â ni.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=6904