skip to main content

Llyfrgell Llanelli - Gwasanaethau Llyfrgell

Diweddariad diwethaf: 31/03/2026
Gwasanaethau Llyfrgell Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

P'un a ydych yn ddarllenydd brwd, yn mwynhau ffilmiau, yn caru cerddoriaeth, neu'n awyddus i gael newyddion diweddaraf yr ardal leol a’r byd, gall ein llyfrgelloedd fodloni'ch anghenion gyda'u dewis eang o lyfrau, DVDs, CDs, gwasanaethau ar-lein, papurau newydd a chylchgronau - mae rhywbeth yno i bawb! Gyda mwy na hanner miliwn o lyfrau rhwng 3 llyfrgell ranbarthol, 13 llyfrgell gangen a theithiol fyddwch chi byth yn rhy bell i ffwrdd o ganolfan wybodaeth.

Mae Stordy Creadigol, lleolir yn llyfrgell Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, yn cynnig gofod hygyrch i ddyfeisio a chreu ystod gynhwysfawr o gynhyrchion. O argraffu i sganio gwrthrychau 3D, recordio eich cerddoriaeth eich hun a chynhyrchu fideo, neu godio eich meddalwedd eich hun. Mae gennym yr offer diweddaraf sydd ar gael i greu prototeip gweithredol gyda'ch cysyniad.

Mae cyfrifiaduron cyhoeddus a Wi-Fi ar gael yn yr holl lyfrgelloedd.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=7141