Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae'n dibynnu - O 3 Ebrill 2023, bydd ein Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol yn darparu'r gwasanaeth hwn. Ewch i'r calendr i ddod o hyd i'ch arhosfan agosaf.
Mae gan y llyfrgell symudol ddewis o lyfrau i oedolion a phlant, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol poblogaidd, yn ogystal â llyfrau print bras.
Os nad oes gan y llyfrgell deithiol y math o lyfrau rydych yn hoffi, gallwch wneud cais am unrhyw eitem o unrhyw un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn rhad ac am ddim drwy ein catalog ar-lein neu drwy staff y llyfrgell deithiol.