Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn anelu at leihau'r risg a'r niwed a achosir gan gyffuriau neu alcohol i unigolion, teuluoedd a'r gymuned leol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i wella iechyd a lles cymdeithasol defnyddwyr y gwasanaeth drwy gynnig triniaeth a gofal.
Mae'r gwasanaeth ar gael i oedolion sy'n poeni am eu defnydd o gyffuriau a/neu alcohol.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Nac oes
Mae’r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau yn gweithredu system gyfeirio agored. Rydym yn derbyn hunan-gyfeiriadau a chyfeiriadau gan drydydd parti (rhaid cael caniatâd gan yr unigolyn). Bydd yr holl gyfeiriadau yn cael eu cymryd gan weithiwr arddyletswydd . Mae’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n cael eu cyfeirio yn cael cynnig asesiad cychwynnol gan aelod o'r tîm.
https://bcuhb.nhs.wales/services/hospital-services/substance-misuse-service/
7 Brighton RoadRhylSir DdinbychLL18 3EY
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru