skip to main content

Cyfeiriadur Therapi

Diweddariad diwethaf: 23/03/2026
Rhywbeth arall
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Cyfeiriadur Therapi yn wefan sy’n ymroi i gynnig ffordd syml i gysylltu â therapyddion ledled y Deyrnas Unedig. Efallai bod gennych chi gyflwr iechyd a allai elwa ar ffurf ar therapi ochr yn ochr â thriniaeth feddygol, neu efallai eich bod chi’n chwilio am ddulliau o leihau straen. Neu efallai eich bod chi’n syml yn ceisio gwella’ch llesiant cyffredinol.

Rydym ni’n hybu manteision therapi cyflenwol a’n nod yw rhoi i ymwelwyr yr holl wybodaeth mae arnyn nhw ei hangen i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus am a fyddai therapi yn briodol iddyn nhw. Mae gan y wefan adran Cwestiynau Cyffredin, nifer o erthyglau defnyddiol sydd wedi eu hysgrifennu gan ein haelodau a’r gallu i chwilio am ymarferwr yn eich ardal chi.

I sicrhau proffesiynoliaeth ein gwefan, mae’r holl therapyddion sy’n cael eu rhestru wedi darparu eu cymwysterau i ni a manylion eu hyswiriant neu brawf o aelodaeth gyda chorff proffesiynol.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=833