Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae ein darpariaeth mynediad agored yn rhedeg bedwar diwrnod yr wythnos o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn i blant 11+ oed. Ar foreau Sadwrn mae gennym grŵp Plant Iau i blant 8 i 11 oed a phob nos Lun rydym yn cynnal DrMz LGBTQ+. Mae'n rhad ac am ddim i ddod yn aelod a gall pobl ifanc gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau gan gynnwys coginio, garddio, prosiectau digidol a gwirfoddoli. Yn ogystal â'r rhain, rydym yn cyflwyno llawer o weithgareddau a gweithdai wedi'u cynllunio i annog creadigrwydd, sgiliau bywyd ac iechyd a lles.Mae gennym hefyd raglenni gwyliau ysgol o weithdai, gweithgareddau, teithiau a phrofiadau newydd.
Gall pob person ifanc rhwng 11 a 25 oed gael mynediad i'n sesiwn galw heibio mynediad agored.
Nac oes
unrhyw un
Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog
http://www.drmz.co.uk
Carmarthen Youth ProjectFriars ParkCarmarthenSir GaerfyrddinSA31 3AN
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru