Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Os ydych yn segur, ac yn dioddef o leiaf un o’r cyflyrau meddygol isod:
- Dros eich pwysau neu’n ordew
- Pwysau gwaed uchel
- Lefel colesterol uchel
- Diabetes wedi’i reoli
- Pryder, iselder neu straen
- Osteoporosis neu berygl o Arthritis
- Symudedd gwael
- Poen cyhyrysgerbydol
- Poen cefn
- Salwch anadlu - asthma, broncitis neu emffysema wedi’i reoli
- Parlys Ymledol (Multiple Sclerosis)
- Blinder cronig, ME
- Mewn perygl o ddatblygu afiechyd coronaidd y galon.
Yna mae’n bosibl y gallech gymryd rhan mewn sesiwn weithgareddau wedi’i strwythuro a’i goruchwylio, ar lefel sy’n addas i chi. Os ydych yn gymwys, cewch ymgynghoriad cychwynnol gyda’r Gweithiwr Ymarfer Corff mewn canolfan hamdden leol cyn dechrau ar y rhaglen 16 wythnos.