skip to main content

Asiantau Cymunedol - RHOSLLANERCHRUGOG, JOHNSTOWN and PONCIAU

Diweddariad diwethaf: 26/08/2025
Cysylltwyr cymunedol / gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Cefnogi Oedolion dros 50 oed yn RHOSLLANERCHURGOG, PONCIAU a JOHNSTOWN

Mae Asiantau Cymunedol yn ymateb arloesol i angen cydnabyddedig nad yw llawer o bobl sy'n byw yn ein cymunedau yn gallu cysylltu â gwasanaethau allweddol sy'n helpu ac yn cynnal lles ac yn cefnogi ansawdd eu bywyd.

Mae Asiantau Cymunedol yn gweithio gydag unigolion dros 50 oed yn Wrecsam, gan ddarparu mynediad hawdd at amrywiaeth o wybodaeth fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u hanghenion presennol ac yn y dyfodol. Y nod yw cynorthwyo pobl hŷn i deimlo’n fwy annibynnol, diogel, gyda gofal amdanynt ac i gael ansawdd bywyd gwell.

Bydd Asiantau Cymunedol yn cefnogi pobl sy’n byw yn ardaloedd Wrecsam, gan bontio’r bwlch rhwng ygymuned leol a’r sefydliadau statudol neu wirfoddol ac yn gallu cynnig cymorth neu gefnogaeth. Mae’r cynllun yn gweithio gan fod yr Asiantau’n byw’n agos at y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. O ganlyniad, maent yn adnabod y pentrefi a’r bobl yn dda.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 50 oed ac 100 oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=9013