Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae’r Tîm Lles Cymunedol yma i gefnogi oedolion sy’n byw yn Sir Conwy i’w cynorthwyo i roi cynnig ar gyfleoedd i hybu eu lles corfforol a meddyliol. Efallai bod diddordeb gennych mewn ymuno â grŵp canu neu gymdeithasol, gwneud ioga, eisiau sgwrs gyda rhywun dros y ffôn drwy’r gwasanaeth cyfeillgarwch neu efallai nad ydych yn siŵr beth yr hoffech ei wneud. Gallwn ni eich helpu chi, ffoniwch ni, neu anfonwch e-bost a bydd un o’n Swyddogion Lles cyfeillgar yn sgwrsio gyda chi am eich diddordebau a’r hyn sy’n bwysig i chi, er mwyn i ni roi gwybodaeth i chi a’ch cyfeirio at y weithgaredd, grŵp neu gymorth cywir i fodloni eich anghenion.
Pobl dros 18 oed sy'n byw yn ardal Sir Conwy
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Mae'n dibynnu - Mae rhai gweithgareddau am ddim ond mae tâl bychan ar gyfer y rhan fwyaf
Gall unrhyw un dros 65 oed ddefnyddio'r adnodd
http://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Leisure-sport-and-health/Community
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru