Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Datblygiad proffesiynol yw’r broses o wella eich hun trwy ddysgu a hyfforddi er mwyn datblygu eich gyrfa. Gall ein cyrsiau amrywiol mewn datblygiad proffesiynol gynyddu eich sgiliau fel gweithiwr, a all arwain at gyfleoedd newydd a datblygiad gyrfa. Mae datblygiad proffesiynol yn cynnwys datblygu sgiliau, nodweddion a chymwyseddau sy'n cyfrannu at eich llwyddiant yn y gweithle.Darganfod mwy:https://www.aber.ac.uk/cy/lifelong-learning/professional-development/Darganfyddwch yr holl gyrsiau sy'n rhedeg ar hyn o bryd:https://www.aber.ac.uk/en/lifelong-learning/courses/
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn ailhyfforddi a rhoi hwb i'w CVs.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Oes - Mae’r gost o astudio cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn dibynnu ar eu lefel a'u gwerth credyd. Gellir dod o hyd i ffioedd pob cwrs ar dudalennau'r cwrs unigol.Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y byddwch yn gymwys i gael eich ffioedd wedi'u hepgor o dan gynllun Hepgor Ffioedd Israddedig Rhan Amser Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.Cysylltwch gyda ni i wirio eich cymhwysedd.
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol
https://www.aber.ac.uk/en/lifelong-learning/courses/
Dysgu Gydol Oes, Prifysgol AberystwythCledwynPenglaisAberystwythCeredigionSY23 3DD
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru