skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Epilepsi Cymru

Diweddariad diwethaf: 19/02/2025
Rhywbeth arall Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Epilepsi Cymru yn bodoli i gefnogi oedolion a phlant gydag epilepsi, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Rydym yn darparu gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag epilepsi, fel gwybodaeth am wahanol fathau o ffitiau, sut mae epilepsi yn effeithio unigolion, sut i leihau risgiau, cyflogaeth, teithio, cymorth cyntaf a budd-daliadau.

Mae Epilepsi Cymru yn darparu gwasanaethau yn y gymuned gan gynnwys boreau coffi, grwpiau cerdded a sgwrsio a chefnogaeth allgymorth.

Rydym yn darparu hyfforddiant epilepsi a meddyginiaeth achub epilepsi ledled Cymru i awdurdodau lleol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, timau anabledd dysgu, asiantaethau iechyd meddwl, ysgolion, a cholegau.

Prif nodau Epilepsi Cymru yw gwneud i bobl ag epilepsi deimlo'n llai ynysig, teimlo'n fwy hyderus ac gallu rheoli eu cyflwr yn well. Rydym yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am epilepsi a'r materion sy'n amgylchynu'r cyflwr.


BESbswy