skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Hygyrchedd

Mae gwefan Dewis Cymru am ofalu – cyhyd ag y bo modd rhesymol – y bydd gwybodaeth a chynghorion ar gael i bobl ar ffurfiau sy’n diwallu eu hanghenion penodol.  I’r perwyl hwnnw, rydyn ni wedi:

  • cynnwys adborth a ddaeth trwy gwmni buddiannau cymunedol Barod a gynhaliodd seminarau lle gallai pobl ddefnyddio’r wefan a mynegi barn am ffyrdd o’i gwella;
  • mireinio’r wefan yn ôl argymhellion Ymddiriedolaeth Shaw a ystyriodd pa mor hawdd y gallai pobl anabl ei defnyddio;
  • cynnwys Iaith Arwyddion Prydain a chynnwys hawdd eu darlleni esbonio beth yw gwefan Dewis Cymru a sut mae’i defnyddio; a
  • gosod meddalwedd technoleg gynorthwyol ‘Browsealoud’ sy’n troi testun yn lleferydd mewn sawl iaith;

Browsealoud

Mae croeso ichi gyflwyno sylwadau am wella’r wefan trwy fotwm ‘Cysylltu â ni’ ar waelod ein tudalen hafan.