skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Tîm o Amgylch y Teulu - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 03/11/2025
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Tîm o Amgylch y Teulu yn cynnig ymyrraeth gydlynol i deuluoedd sydd ag amrywiaeth o anghenion sydd angen cefnogaeth gan asiantaethau lluosog. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r teulu cyfan i archwilio eu cryfderau yn ogystal â'u hanghenion, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau perthnasol ar waith. Bydd gweithiwr y Tîm o Amgylch y Teulu yn cynnal cyfarfodydd amlasiantaeth yn rheolaidd i adolygu cynllun gweithredu sy'n canolbwyntio ar y teulu.

Mae'r tîm yn helpu Plant, Pobl Ifanc (0-18 oed) a'u Teuluoedd, a all elwa o gefnogaeth ychwanegol i oresgyn anawsterau a gwneud newidiadau cadarnhaol. Rydym yn cynnig gwaith uniongyrchol gyda rhieni, plant a phobl ifanc yn ogystal â gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill er mwyn cael y gefnogaeth orau i ddiwallu'r anghenion a nodwyd.