skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot - The Wallich - Tai

Diweddariad diwethaf: 21/08/2025
Tai Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth sy'n gysylltiedig â thai. Mae PAWS yn cynnig gwasanaeth llety personol - beth bynnag yw oed yr unigolyn, y math o denantiaeth neu'r lleoliad yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae ein pedair canolfan hefyd yn darparu rhagor o gymorth â materion iechyd a llesiant a mynediad at hyfforddiant, addysg neu gyfleoedd i wneud gwaith gwirfoddol.

Mae gweithwyr cymorth pwrpasol PAWS yn canolbwyntio ar yr atebion sydd eu hangen er mwyn galluogi unigolyn i fyw'n annibynnol ac yn gynaliadwy. Gallwn gynnig cymorth â'r canlynol:
- rheoli tenantiaeth
- dod o hyd i lety i'w rentu'n breifat
- materion ariannol a chyllidebu
- camddefnyddio sylweddau neu alcohol
- problemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl
- hyfforddiant, addysg neu waith gwirfoddol

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.