Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn noddfa yng nghefn gwlad i bawb ei mwynhau. Fel elusen gofrestredig, credwn na ddylai unrhyw un gael ei eithrio o gymdeithas. Mae gennym hanes hir a balch o ddarparu cefnogaeth therapiwtig i bobl ddifreintiedig a bregus mewn lleoliad Fferm.Yn ystod y tymor rydym yn cynnal rhaglen ar gyfer pobl ifanc sy'n ffeindio hi'n anodd mewn addysg efallai oherwydd eu bod wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod neu wedi cael eu datgan ag anhwylderau niwroddatblygiadol fel ADHD neu awtistiaeth. Heb y math cywir o ofal a chefnogaeth, mae'r grŵp bregus hwn yn mynd yn oedolyn heb y sgiliau bywyd sydd eu hangen ar bobl i ymdopi heb sôn am lwyddo.Rydym hefyd yn ymestyn ein hamgylchedd gofalgar a maethlon i oedolion ag anableddau dysgu ac rydym yn agored i'r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn. Gyda theithiau cerdded coetir, anifeiliaid i'w gweld, ardaloedd chwarae a chaffi mae yna ddigon i'w wneud a'i fwynhau.
Pobl fregus a difreintiedig yn y gymuned leol ac ehangach.Ymwelwyr o gymunedau lleol ac ehangach sy'n cynnwys aelodau o'r cyhoedd, ysgolion, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau eraill er enghraifft.
Mae'n dibynnu - Codir tâl am atgyfeirio i'n rhaglen amser tymor ar gyfer pobl ifanc sy'n agored i niwed.Mae cyfleusterau ar gael i'w llogi ac mae cost mynediad i ymwelwyr - gellir cael prisiau trwy e-bostio'r manylion isod.
Cyfeirir ein defnyddwyr Gwasanaeth trwy amrywiol asiantaethau a'u hasesu ar gyfer addasrwydd. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ymweld ar unrhyw adeg (ar agor bob dydd heblaw Dydd Nadolig o 10yb. Y mynediad olaf am 4yp) - mae angen bwcio tocyn cyn cyrraedd trwy ein gwefan. Mae angen archebu teithiau ysgol a grŵp ymlaen llaw.
https://www.ameliatrust.org.uk/
Amelia Trust FarmFive Mile LaneBarryCF62 3AS
Amelia Trust FarmFive Mile LaneBarryBro MorgannwgCF62 3AS
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru