skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru - Rhoi Seibiant i Ofalwyr - Gofal cartref

Diweddariad diwethaf: 17/10/2025
Gofal cartref Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Os ydych yn gofalu am aelod o'ch teulu, partner, plentyn neu gyfaill, gallwn gynnig gwasanaethau seibiant ymarferol yn eich cartref i adael i chi gael egwyl o'ch rôl ofalu. Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth dwyieithog unigryw yn y cartref neu'r gymuned, o ddarparu cwmnïaeth achlysurol i roi gofal personol lefel uchel.

Rydym wedi cofrestru efo CIW. Rydym yn Ddarparydd Gofal Cymeradwy i'r Bwrdd Iechyd a'r chwe Awdurdod Lleol ledled Gogledd Cymru.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.