Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Canolfan Gelfyddydau Memo yw’r unig ganolfan gelfyddydau amlbwrpas a sinema ym Barri ac mae’n ganolfan fwyaf ym Mro Morgannwg. Mae rhaglen greadigol y ganolfan yn cynnal gwaith proffesiynol o’r safon uchaf – theatr, cerddoriaeth, dawns, digwyddiadau i blant, sinema, comedi, gweithdai ac unrhyw beth arall rhyngddynt. Rydym yn darparu adnoddau hanfodol i artistiaid, grwpiau cymunedol, busnesau ac unigolion i gyflwyno eu gweithgareddau creadigol, masnachol a phreifat.Rydym yn dibynnu ar gefnogaeth llawer er mwyn sicrhau bod ein hincwm a enillir yn gallu cynnal ein gweithgareddau creadigol. Rydym yn gweithio gyda’r grŵp ehangaf o bartneriaid, artistiaid, ymarferwyr a defnyddwyr i gyflwyno, cefnogi a chryfhau ein cysylltiad â’n 105,000 o ymwelwyr blynyddol – ac mae bron i 10,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein rhaglen i bobl ifanc, a gyflwynir yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Unrhyw un
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Oes - Amrywiol, cysylltwch os gwelwch yn dda.
https://memoartscentre.co.uk/cy/
Memo Arts CentreGladstone RoadBarryCF62 8NA
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru