Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae gan ELITE hanes o gefnogi pobl trwy ein gwasanaethau i gyflawni newid cadarnhaol yn eu bywydau. Rydyn ni’n rhoi tegwch, amrywiaeth ac arferion gwaith cynhwysol wrth galon ein gwasanaethau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn sefydliad y mae ein holl gyd-weithwyr yn falch o berthyn iddo. Mae ELITE yn hyrwyddo hawliau a lles pobl mewn angen trwy helpu i sicrhau cyflogaeth â thâl, hyfforddiant a gwirfoddoli. Mae ein gwasanaethau arbenigol yn cynnig dull un-i-un sy'n gyfannol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydyn ni’n ymgysylltu â chyflogwyr ac yn eu cefnogi i greu gweithleoedd Hyderus o ran Anabledd, amrywi