Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Pwy yw'r cynllunwyr cymorth?
Rydym yn gweithio gyda'r Tîm Cymorth Cymunedol, Bro Morgannwg. Gallwn eich cefnogi os oes gennych anabledd dysgu ac mae angen cymorth arnoch i archwilio eich nodau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Gallwn eich helpu i lunio cynllun neu lwybr i gyflawni eich nodau a'ch dyheadau, ac archwilio pa gymorth y bydd ei angen arnoch. Bydd cynllunydd cymorth yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cyfarfod chi a'r bobl sy'n agos atoch chi, i'ch helpu i feddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Enghreifftiau o ffyrdd y gallwn eich helpu:
Ymchwilio i gyfleoedd newydd lleol i chi e.e. clybiau chwaraeon
Eich cyfeirio at weithgareddau newydd yn eich ardal e.e. cyrsiau hyfforddi
Creu cynllun i'ch helpu i gyflawni eich nodau e.e. eich helpu i ddod o hyd i waith gwirfoddoli sy'n arwain at waith cyflogedig
Trefnu a mynychu sesiynau blasu e.e. dod gyda chi i rolau gwirfoddoli i ddechrau
Cynllunio llwybrau i weithgaredd