skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Fosterline Wales - The Fostering Network in Wales - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 10/07/2025
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Y Rhwydwaith Maethu yw prif elusen faethu’r Deyrnas Unedig. Y ni yw’r rhwydwaith hanfodol ar gyfer maethu, sy’n dod â phawb ynghyd sy’n gysylltiedig â bywydau plant maeth.

Llinell Faethu Cymru yw’n llinell wybodaeth a chynghori ddwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer gofalwyr maeth cyfredol a darpar ofalwyr maeth, gofalwyr Pan Fydda i’n Barod, cyn-ofalwyr maeth sy’n warcheidwaid arbennig, y rheiny sy’n cynorthwyo pobl sy’n gadael gofal, gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a holl aelodau eraill y cyhoedd. Y gwasanaeth ymyrraeth gynnar, hanfodol hwn yw’r unig wasanaeth cynghori cenedlaethol ar faethu.

Mae’n gwneud cyfraniad arwyddocaol at sefydlogrwydd a pharhauster lleoliadau, gan atal problemau rhag dwysáu a allai fel arall arwain at chwalu lleoliad neu at ofalwyr yn rhoi’r gorau i faethu.