Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae'r dull Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad iaith plant ifanc o dan 4 oed. Bydd Gweithiwr Teulu yn eich cefnogi i adnabod cryfderau.Fel arfer mae sesiynau'n para awr, ac mae 4 sesiwn wythnosol yn y cartref.Gyda Nôl ac Ymlaen, bydd fideo yn cael ei wneud ohonoch yn rhyngweithio â'ch plentyn. (Nid oes fideo yn cael ei wneud yn Dewch i Chwarae).Bydd Gweithiwr Teulu yn eich cefnogi i sefydlu nodau i ganolbwyntio arnynt bob wythnos.Nod:Cefnogi rhieni i ddatblygu ffyrdd ymatebol o ymwneud â’u plentyn yn seiliedig ar eu cryfderau presennol .Darparu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'w ddefnyddio gyda theuluoedd a allai gael budd o ymyrraeth wedi'i thargedu.Beth fydd yn digwydd wedyn? Ar ôl cwblhau'r cyrsiau yma, bydd y Gweithiwr Teulu yn trafod y cynnydd gyda chi a'r person wnaeth eich cyfeirio ac yn penderfynu ar y cam nesaf.
Mae Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae i rieni a'u plant o dan 4 oed.Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni gyda'r manylion isod neu gwiliwch ein tudalen ar Facebook.#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #RhiantaCeredigion
Nac oes
Gall unrhyw riant neu ofalwr sy'n byw yng Ngheredigion gael mynediad at yr adnodd hwn.
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru