Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae'n dibynnu - Gwasanaethau ymchwil a ffïoedd - £15.00 am bob 30 munud*
*Sylwer: Ni chodir tâl am ymholiadau sy'n cymryd llai na hanner awr i'w hateb, er gellir codi tâl am unrhyw eitemau a ddarperir sydd wedi'u llungopïo neu eu hargraffu.
Gellir codi tâl ymchwil o £15.00 am bob hanner awr ar gyfer ymholiadau sy'n cymryd rhwng hanner awr a'r mwyafswm o ddwy awr o amser staff er mwyn ymchwilio ac ateb, gyda chost postio wedi'i ychwanegu lle bo'n briodol. Ni allwn gwblhau ymchwil manwl.
Ffoniwch staff cyfeirio'r llyfrgell ar 01792 637503 os hoffech drafod eich gofynion.