skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

ChatHealth - Sir Gaerfyrddin - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 12/12/2025
Iechyd Cymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio gwasanaeth negeseua i gefnogi pobl ifanc 11-25 oed yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gall pobl ifanc gael cyngor a chymorth iechyd cyfrinachol gan Nyrsys Cyswllt Ieuenctid Iechyd Da ynglŷn â materion megis iechyd emosiynol (gan gynnwys gorbryder, hwyliau isel, bwlio), iechyd corfforol ac iechyd rhywiol, a hynny trwy anfon neges:

Mae'r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn ddienw.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys Gwyliau Banc. Codir y tâl arferol am eich negeseuon.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 11 oed a 25 oed.