skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau Sir y Fflint - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 21/08/2025
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Hoffech chi ddarganfod mwy am sut i gefnogi eich plentyn? Mae grwpiau Bod yn Rhiant am ddim i ymuno â nhw ac yn cael eu rhedeg yn rhithiol a hefyd wyneb yn wyneb. Mae ein grwpiau yn unigryw i eraill gan eu bod yn cael eu rhedeg gan rieni lleol. Cânt eu rhedeg dros 8 wythnos (tymor ysgol yn unig) am 2 awr yr wythnos. Rhai o'r pynciau dan sylw yw Bod yn Rhiant, Chwarae, Teimladau, Deall Ymddygiad Plant a Gwerthfawrogi fy Mhlentyn. Mae gennym hefyd grŵp Babi & Ni sy'n cael ei redeg am 8 wythnos (yn ystod y tymor yn unig) am 2 awr yr wythnos. rhai o'r pynciau dan sylw yw Personoliaeth Eich Babi, Rheoli Straen, Gofalu Amdanon Ni'n Hunain, a Theimladau. Mae’r grwpiau’n gyfle i gwrdd â rhieni eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg a rhannu syniadau ynglŷn â chefnogaeth ymarferol ar gyfer heriau dydd i ddydd o fod yn riant.