skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gogledd Ddwyrain Cymru Dysgu Cymunedol I Oedolion - Addysg Gymunedol

Diweddariad diwethaf: 14/01/2026
Addysg Gymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sgil newydd, rhoi hwb i’ch cyfleoedd gyrfaol neu gysylltu ag eraill mewn modd cefnogol a hwyliog; yna gallai cwrs Dysgu Oedolion yn y Gymuned fod yn ddelfrydol i chi.

Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, rydym wedi ffurfio partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.

Rydym yn ceisio darparu cyfleoedd dysgu oedolion o ansawdd yn ein cymunedau, ar gyfer unrhyw un 19 oed a throsodd.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu:

cyrsiau ymgysylltu a chyngor a sesiynau untro - os ydych yn chwilio am ddiddordeb neu sgil newydd ac yn dymuno cwrdd â phobl o’r un meddylfryd.
cyrsiau achrededig (sy’n cael eu cydnabod yn swyddogol) - os ydych angen cymhwyster penodol i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant i ddarparu cyrsiau ledled Wrecsam a Sir y Fflint, er mwyn bodloni anghenion ein cymunedau.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 19 oed ac 100 oed.