skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Gwerth yn y Fro gyda Gwobrau am Amser

Diweddariad diwethaf: 11/09/2025
Cysylltwyr cymunedol / gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwerth yn y Fro yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli i fudiadau lleol ac yn eu tro yn eu gwobrwyo am eu hamser.
Lansiwyd gwefan newydd yn Hydref 2022 sef siop un stop ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau partner. Mae'n rhoi manylion cyfleoedd gwirfoddoli, yn caniatáu i sefydliadau recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhoi'r dewis i wirfoddolwyr gyfnewid gwobrau am eu hamser.

Gall gwobrau fod yn unrhyw beth o baned o goffi a gacen i driniaeth harddwch neu barsel o nwyddau ymolchi. Economi gylchol yw Gwerth yn y Fro. Mae'r holl gyfleoedd a'r gwobrau gwirfoddoli wedi eu lleoli ym Mro Morgannwg. Mae gwirfoddoli yn brofiad cyfannol sydd hefyd yn gallu bod o fudd i iechyd, lles, yngallu lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwella sgiliau.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.