skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

MYND (Mentro, Ymgysylltu a Newid yn Digwydd) - Caerffili - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 23/02/2026
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

MYND (Mentro, Ymgysylltu a Newid yn Digwydd) yw prosiect atal ar gyfer plant 8-17 oed sydd mewn perygl o droseddu neu sy’n arddangos ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd pob plentyn yn gweithio’n agos gydag aelod o’r tîm MYND
am 3 - 6 mis. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y materion y mae plant a theuluoedd yn poeni amdanyn nhw ac sy’n dod yn bryderon cynyddol.

Gall enghreifftiau gynnwys:
• Mewn perygl o fynd i mewn i’r System Cyfiawnder Ieuenctid
• Pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddol
• Diffyg hunan-barch
• Camddefnyddio sylweddau
• Cyfoedion anaddas/sy’n troseddu
• Ymddygiad rheolaethol/cymhellol
• Dicter neu ymddygiad ymosodol yn y gymuned/ysgol/cartref
• Gwaharddiadau o’r ysgol sy’n gysylltiedig â phryderon yn y gymuned
• Statws NEET (Pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant)