skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

RNIB Darllen - Gwasanaethau Llyfrgell

Diweddariad diwethaf: 09/12/2025
Gwasanaethau Llyfrgell Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Does dim angen i golled golwg eich atal chi rhag darllen. Mae gennym ddigonedd o ddatrysiadau, beth bynnag yw eich chwaeth a’ch hoffterau darllen. Rydyn ni’n ei gwneud hi’n bosibl i chi gael mynediad at lyfrau, papurau newydd a chylchgronau yn y fformat sydd orau gennych chi, boed hynny’n ddigidol, sain, braille neu brint bras. Porwch drwy ein casgliad o dros 30,000 o lyfrau i’w benthyca, eu lawrlwytho a gwrando arnynt ar eich ffôn clyfar, llechen ddigidol, cyfrifiadur neu ddyfais ddarllen arall. Gallwch ddewis o ystod eang o deitlau ffuglen a ffeithiol ar gyfer plant ac oedolion, mewn braille electronig a sain DAISY.
Rydym yn ychwanegu cynnwys newydd at ein casgliad yn barhaus, ac yn gweithio'n agos gyda chyhoeddwyr i ddod â'r cyhoeddiadau diweddaraf i chi. https://readingservices.rnib.org.uk/

Gallwch lawrlwytho neu fenthyg llyfrau a sgoriau cerddoriaeth am ddim o’n Llyfrgell. http://rniblibrary.com

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.