Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae Porth Lles Wrecsam yma i gefnogi plant, pobl ifanc, rhieni/gofalwyr ac unrhyw un sy’n gweithio gyda nhw drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Gall y Porth Lles eich helpu gydag unrhyw beth i’w wneud gyda bywyd teuluol, seibiant i blant gydag anableddau, helpu gyda budd-daliadau a dyledion, lles meddyliol neu ymddygiad plant, mae’r cyfan i’w gael yn y Porth Lles.Mae’r Porth Lles yn rhoi mynediad i ystod o wasanaethau atal a chymorth cynnar gan nifer o sefydliadau sydd i’w cael yn yr un lle. Dim ond unwaith y bydd angen i chi adrodd eich stori.
Y lle i fynd i unrhyw un sy’n chwilio am wybodaeth neu gefnogaeth i blant a theuluoedd.
Nac oes
Gallwch un ai roi’r cais i mewn eich hun neu ffonio 01978 292094 a gallwch gwblhau eich cais dros y ffôn.
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
https://www.wrecsam.gov.uk/y-porth-lles
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru