skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cymunedau Digidol Cymru: Cyfeillion Digidol - Addysg Gymunedol

Diweddariad diwethaf: 18/06/2025
Addysg Gymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Nod Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw lleihau achosion o allgau digidol yn ein gwlad. Hoffem weld Cymru yn wlad lle mae gan bawb y cymhelliant, y sgiliau a’r cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.

Nid yw mynd ar-lein yn hawdd i bawb. I lawer o bobl sydd ddim ar-lein, y person gorau i’w helpu nhw yw CHI – ffrind maen nhw’n ymddiried ynddo neu aelod o’r teulu sy’n eu hadnabod yn dda ac yn gallu gweithio gyda nhw un-i-un. Does dim rhaid bod gennych chi sgiliau cyfrifiadurol gwych; dim ond bod yn gyfarwydd â defnyddio’r we i’w helpu nhw i oresgyn eu hofnau a meithrin hyder i ddefnyddio dyfeisiau digidol – drwy fod yn Gyfaill Digidol iddyn nhw.

Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i ddolenni ac adnoddau defnyddiol i helpu’r rhai o’ch amgylch wella eu sgiliau digidol. Mae’r cam hwn mor bwysig a diolch i chi am helpu’r rhai rydych chi’n eu hadnabod i ennill sgiliau digidol.