skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaethau Niwro-ddatblygiadol - Iechyd

Diweddariad diwethaf: 06/01/2026
Iechyd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, yn ogystal â rhai ymyriadau cyfyngedig i blant a phobl ifanc yn dilyn diagnosis. Prif swyddogaeth y gwasanaeth yw cynnig asesiad niwroddatblygiadol a phroffil angen i blant a phobl ifanc o oedran cyn-ysgol hyd at 18 oed (efallai mai dim ond o 5 oed y bydd rhai plant yn gallu cael eu hasesu'n llawn). Gofynnwch i’ch gwasanaeth lleol am wybodaeth am ein timau blynyddoedd cynnar a chyn-ysgol, sy’n darparu asesiad i blant dan 5 oed.

Mae’n wirioneddol bwysig dweud nad yw asesiad bob amser yn golygu y bydd eich plentyn yn cael diagnosis ac nid diagnosis ddylai fod yr unig lwybr i gael cymorth. Os oes gan eich plentyn anghenion efallai y bydd gan yr ysgol a'r awdurdod lleol ddyletswydd i ddiwallu'r anghenion hynny heb fod diagnosis yn bresennol.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 0 oed ac 18 oed.