Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Aelodau o'r Gymuned sy'n byw ym Mro Morgannwg.
Yn CELT+ gall ein Mentor Cyflogaeth ac Ymgysylltu gefnogi pobl hŷn gyda'u hanghenion cyflogaeth a hyfforddiant. Gallwn gefnogi'r rhai sydd mewn perygl neu sydd wedi cael eu diswyddo. Gallwn helpu gydag ariannu hyfforddiant, uwchsgilio, drafftio CV newydd neu drafod y farchnad gyflogaeth. Gallwn hefyd helpu'r rhai sydd am ddychwelyd i'r gwaith neu hyfforddiant ar ôl seibiant gyrfa o ofalu am aelodau'r teulu.