Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Croeso i Stiwdio Gelfyddydau Prosiect Glowyr Wrecsam, lleoliad cymdeithasol cynhwysol lle gall pobl o bob oed, gallu a chefndir rannu straeon, ennill sgiliau newydd a dod â’u syniadau creadigol yn fyw. Rydym wedi ymrwymo i wneud y celfyddydau a diwylliant yn hygyrch i bawb ac mae ein drysau ar agor i unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau artistig mewn amgylchedd cefnogol.