Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gofalwyr di-dâl Merthyr Tudful. I fod yn glir, os ydych yn ofalwr sy'n derbyn budd-daliadau, taliadau uniongyrchol, lwfans gofalwr ac ati, rydych yn dal i fod yn ofalwr di-dâl yn y gymuned a gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n cefnogi ac yn darparu gofal i anwylyd sydd â salwch, anabledd, cyflwr iechyd meddwl, dibyniaeth, unrhyw un na all ymdopi heb eu cefnogaeth.