Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae hwn wedi'i anelu at unigolion a allai elwa o allu bod yn actif am awr neu 3 mewn lleoliad cymdeithasol. Mae croeso arbennig i 50+, hefyd gall teuluoedd ddod draw a bod yn actif gyda'i gilydd. Byddem hefyd yn croesawu dynion sydd efallai’n teimlo’n ynysig ac a hoffai dreulio peth amser gyda dynion eraill. Mae'r lleoliad yn darparu dwy ardal i fod yn weithgar. Hoffem hefyd gael pobl sydd efallai wedi cael rhandir yn y gorffennol ond sydd bellach yn ei chael yn ormod ac a hoffai gymryd rhan mewn rhywbeth cadarnhaol