skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cyfaill Cyfreitha - Eiriolaeth

Diweddariad diwethaf: 04/06/2025
Eiriolaeth Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Cyfaill Cyfreitha yn cynnal achos cyfreithiol ar ran rhywun sydd heb y galluedd i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddo cyfreithiwr. Weithiau gall Eiriolwr Annibynnol weithredu fel Cyfaill Cyfreitha gan ei fod yn adnabod y person yn dda ac yn fodlon ei gynrychioli.

Bydd y Cyfaill Cyfreitha yn cyflwyno barn a dymuniadau'r person mewn achos llys trwy ei gyfreithiwr.

Pwy all fod yn Gyfaill Cyfreitha?

Gall y llys benodi unrhyw un i fod yn gyfaill cyfreitha, er enghraifft:

Rhiant neu warcheidwad
Aelod o'r teulu neu ffrind
Cyfreithiwr
Eiriolwr proffesiynol fel Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA)
Dirprwy yn y Llys Gwarchod
Rhywun sydd ag Atwrneiaeth arhosol neu barhaus