skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwirfyddolwyr Cymunedol Sblot - Cyfleoedd Dydd i Oedolion

Diweddariad diwethaf: 18/02/2025
Cyfleoedd Dydd i Oedolion Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot yn elusen lleddfu tlodi yn y gymuned sy’n darparu gwasanaethau ac adnoddau hanfodol o’i chanolfan yng Nghanolfan Gymunedol STAR yn Sblot, Caerdydd, i’r rhai sydd mewn tlodi bwyd, tanwydd a thlodi cymdeithasol.

Mae’r elusen yn darparu pryd poeth a bwyd ffres i fynd i ffwrdd mewn Clwb Brecwast wythnosol, yn rhedeg clybiau gaeaf cynnes a boreau cymdeithasol i oedolion hŷn, yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a rheoli dyled trwy sefydliadau partner, ac yn cynnal sesiynau coginio, crefft a sgiliau digidol gwella ansawdd bywyd ar gyfer buddiolwyr, ynghyd â chreu cyflogaeth hirdymor a chyfleoedd magu hyder ar gyfer ein gwirfoddolwyr.