skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Adullam homes - Tai

Diweddariad diwethaf: 02/02/2026
Tai
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn darparu tai â chymorh i bobl nad ydynt yn barod eto ar gyfer tai prif ffrwd oherwydd eu cysylltiadau gyda materion fel iechyd meddwl gwael, problemau cyffuriau a/neu alcohol, cyn-droseddwyr neu drais domestig ac eraill. Rydym yn eu hannog a’u cefnogi nhw tra maent yn cael mynediad i gymorth a chefnogaeth mewn ardaloedd eraill fel trefnu apwyntiadau, bancio, mynediad i wasanaethau a dysgu yn gyffredinol i fod yn oedolyn annibynnol. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i gaffael sgiliau fel coginio, garddio a chrefftau. Fel rhan o’n profiad garddio, rydym yn gobeithio tyfu ffrwythau a llysiau y gallwn eu troi’n brydau maethlon blasus am bris rhad ac mae’n debyg y bydd yna adegau pan fydd gennym gynnyrch dros ben yr ydym yn gobeithio ei rannu gyda’r gymuned ehangach.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.