Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae Cefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Wrecsam (WOTS) yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnig cefnogaeth sy’n ymwneud â thenantiaeth i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl ac / neu ddefnyddio sylweddau sydd yn byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae WOTS yn helpu cadw’r unigolion yn y gymuned pan maent yn cael amser caled. Rydym yn helpu i gynnal eu tenantiaeth, i osgoi cael eu troi allan, ac yn darparu cefnogaeth i osgoi derbyniadau i’r ysbyty os nad ydynt yn angenrheidiol. Rydym yn annog ac yn ymgorffori ein cefnogaeth writh helpu’r unigolion i deimlo’n rhan o’r gymuned ehangach, gyda’r nod o leihau unigrwydd ac ynysiad.Mae gennym ymagwedd gyfannol i gefnogi unigolion. Credwm mewn ymagwedd bositif, gyfeillgar sydd ddim yn feirniadol nac yn ragfarnllyd. Ceisiwn symyd ar gyflymder yr unigolyn; arweinir y gefnogaeth ganddynt hwy a’r hyn y maent yn ei adnabod sydd o bwysigrwydd iddynt hwy. Ein nod yw i bob unigolyn gyrraedd eu nod i fyw yn annibynnol gyda hyder ac ymdeimlad o falchder.
Cynigiwn gefnogaeth i unigolion gyda iechyd meddwl ac/neu ddefnydd sylweddau, gyda’r angen sylfaenol o gefnogaeth sy’n ymwneud â thai.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Nac oes
Cynigir y gwasanaeth i unigolion 18 oed a hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sydd angen cegnogaeth o gwmpas eu tenantiaeth, sy’n byw yn ninas Wrecsam. Mae atgyfeiriadau drwy borth Cyngor Wrecsam sy’n bwynt mynediad unigol ar gyfer pob atgyfeiriad sy’n ymwneud â thai. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru