skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl / Defnydd Sylweddau Wrexham - Tai

Diweddariad diwethaf: 29/09/2025
Tai Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi cleientiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sydd yn ddigartref ar hyn o bryd, sydd yn byw mewn llety dros dro neu newydd symud i lety parhaol. Gweithiwn ochr yn ochr gyda Thîm Opsiynau Tai Cyngor Bwrdeisdref Wrecsam a Swyddogion Cefnogaeth Tai.

Cefnogwn eu cleientiaid sydd â’r cyflyrau uchod i helpu i’w galluogi i sicrhau llety parhaol ac i fyw’n annibynnol.

Darparwn wasanaeth cyfannol, person-ganolog sy’n anelu i alluogi y cleientiaid i arwain eu siwrnai eu hunain. Rydym yn cyflawni’r uchod trwy weithio ac mewn partneriaeth a chydweithrediad gyda gwasanaethau / prosiectau Adferiad, yn ogystal â gwasanaethau statudol a thrydydd sector yng nghymuned Wrecsam. Darparwn hefyd gefnogaeth sy’n ymwneud â thai a llesiant, megis ymyrraethau mewn argyfwng, ymyrraethau byr, ac ymyrraethau therapiwtig sy’n ffocysu ar iechyd a llesiant.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.