skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gerddi Rheilffordd: Gardd gymunedol a hwb - Amgylcheddol

Diweddariad diwethaf: 24/10/2025
Amgylcheddol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gerddi’r Rheilffordd yn rhywle lle gall pawb ddod ynghyd, rhannu sgiliau a chreu cymuned gryfach, wyrddach a mwy cysylltiedig. Ein nod yw cynnig man gwyrdd croesawgar ar gyfer gweithredu cymunedol sy’n gwasanaethu’r Sblot, Adamsdown a Thremorfa, yn ogystal ag ardal ehangach Caerdydd.

Mae yna gynifer o bethau i’w gwneud yng Ngerddi’r Rheilffordd a chynifer o ffyrdd i gymryd rhan, yn cynnwys tyfu llysiau, dysgu sgiliau newydd, cynnal eich digwyddiad eich hun neu bicio draw i gael dishgled gyda chyfeillion a chymdogion – estynnwn groeso cynnes i bawb.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.