skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Rhaglen Cwmpawd ar gyfer dynion sy'n dioddef Cam-drin Domestig - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 26/08/2025
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Cefnogaeth i ddynion sydd wedi dioddef mewn perthynas ymosodol.
Mae'r Rhaglen Cwmpawd yn adnodd arbenigol a gynlluniwyd i helpu dynion sydd wedi goroesi cam-drin domestig i wella trwy ddilyn taith o gydnabod eu bod wedi dioddef mewn perthynas ymosodol. Mae'n rhoi cyfle unigryw i ddynion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig rannu eu profiadau â dioddefwyr eraill mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Wrth fynychu'r Rhaglen Cwmpawd, gall dynion sydd wedi goroesi cam-drin domestig:

Gynyddu eu hunanhyder a'u cymhelliant.
Gwella eu hunan-effeithiolrwydd.
Dod yn fwy gwydn ac ymwybodol o arwyddion trais a cham-drin domestig.
Gwella eu llesiant meddyliol a'u positifrwydd.
Bod yn rhan o rwydwaith gefnogol unigryw gyda dynion eraill sydd wedi goroesi.