skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Sgiliau Digidol (Defnyddio TG a'r Rhyngrwyd) - Canolfan Gymunedol Van - Addysg Gymunedol

Diweddariad diwethaf: 11/09/2025
Addysg Gymunedol
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Bydd y cwrs yn dysgu'r sgiliau hanfodol i chi ddechrau cyfrifiadura ac i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd gyda hyder. Mae'r cwrs yn cynnwys sut i ddefnyddio tabled / ffôn clyfar/ gliniadur neu gyfrifiadur; mae'n eich dysgu chi sut i gael mynediad i'r rhyngrwyd yn ddiogel; sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol e.e Facebook, Twitter; Sut i sefydlu a defnyddio cyfrif e-bost; sut i gael mynediad i bapurau newydd, llyfrau a chylchgronau ar-lein, sut i siopa'n ddiogel a sut i lawrlwytho a defnyddio apiau. Gall hyn arwain at ennill tystysgrif achrededig.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 19 oed ac 100 oed.