Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Ymunwch â ni i nodi 60 mlynedd ers sefydlu Carers UK gyda Darlith Mary Webster yng Nghymru.Ymhlith y siaradwyr mae:Y Gwir Anrh. yr Arglwydd Kinnock, cyn Arweinydd y Blaid Lafur a chyn ofalwr di-dâl. (Ymuno o bell).Y Farwnes Jill Pitkeathley OBE, Is-Lywodraethwraig Carers UK. (Mewn sgwrs â'r Arglwydd Kinnock).Dr Dan Burrows, Uwch Ddarlithydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.Helen Walker, Prif Weithredwr Carers UK.Yn cael ei chynnal gan Katie Fenton, Gohebydd Iechyd, ITV Cymru.Mae’r digwyddiad yn dod â rhestr gyfareddol o siaradwyr at ei gilydd o Gymru a thu hwnt, i drafod pam mae gofal di-dâl yn fater mor bwysig a’r camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd fel gwneuthurwyr polisi ac fel cymdeithas i sicrhau cydraddoldeb i ofalwyr di-dâl yng Nghymru a gweddill y DU. Unwaith y bydd y panel wedi rhannu eu syniadau a’u profiadau, bydd cyfle i gael trafodaeth ehangach ar y materion allweddol gyda’r gynulleidfa.
Unrhyw un
Nac oes
Anyone
https://www.eventbrite.co.uk/e/mary-webster-lecture-tickets-1495740252359
Norwegian Church Arts CentreHarbour DriveCaerdyddCF10 4PA
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru