Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau Saesneg mewn siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
Os ydych yn ddysgwr newydd neu os oes gennych ymholiad, cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb, neu i wneud apwyntiad i ddarganfod pa ddosbarth ESOL sy'n iawn i chi. Rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfweliad anffurfiol gydag aelod o staff ac asesiad cyn cofrestru. Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Dewch â chopi o'ch ID ffotograffig (pasbort a thrwydded breswylio) gyda chi.
Peidiwch â phoeni am gyfweliad asesu. Nid yw'n brawf! Rydyn ni eisiau i chi lwyddo a bod yn hapus yn eich dosbarth, yr asesiad yw sut rydyn ni'n darganfod beth rydych chi'n ei wybod yn barod, a pha un fyddai'r dosbarth gorau i chi o ran lefel a chyflymder.
Ein nod yw cyflwyno pob dosbarth fel yr hysbysebwyd. Fodd bynnag, gall dosbarthiadau gael eu canslo, neu eu newid, os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu mewn amgylchiadau annisgwyl.