skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ray of Light Cefnogaeth Teulu - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 18/09/2025
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Yn 'Ray of Light Cancer Support', rydyn ni’n gwybod bod cael diagnosis o ganser yn effeithio ar y teulu i gyd. Dyna pam rydyn ni wedi creu ein Prosiect Cymorth i Deuluoedd – i roi cefnogaeth tyner a charedig i deuluoedd sy’n byw gyda chanser, gyda ffocws ar gysylltu, bod yn greadigol, a threulio amser yn y natur.

Beth Rydym yn Ei Gynnig:
💬 Cefnogaeth Un-i-Un
Cefnogaeth emosiynol ac ymarferol wedi’i theilwra i chi a’ch anwyliaid.
Cymorth i’ch cysylltu â’r gwasanaethau cywir ar yr adeg iawn.

🌳 Sesiynau Teul Gyfan
Grwp hamddenol, hwyliog a chreadigol i deuluoedd ddod at ei gilydd, gyda chrefftau, gemau, a chyfle i sgwrsio a chysylltu. Yn rhedeg bob mis ar brynhawn dydd Mawrth yn Ganolfan Ganser Felindre. Cysylltwch â ni am ddyddiadau.

👪 Grŵp Cymorth Rhieni a Gofalwyr
Nod y grŵp hwn yw rhoi sgiliau therapiwtig i rieni er mwyn cefnogi eu plant yn emosiynol gartref a chryfhau perthnasoedd teuluol. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.