skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Y Rhaglen Adferiad Strwythuredig - Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl

Diweddariad diwethaf: 23/09/2025
Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Rhaglen Adferiad Strwythuredig wedi ei lleoli ac yn cael ei darparu ar draws Gogledd Cymru. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ar gyfer unigolion sy’n ymrwymedig i oresgyn eu defnydd o sylweddau. Ein nod gyda’r rhaglen yw i helpu cyfranogwyr yn eu siwrnai adferiad, gan eu helpu i gynnal sobrwydd o gyffuriau ac alcohol.

Trwy ail-integreiddio i mewn i’w cymunedau a gwneud dewisiadau positif, ymdrechwn i’w grymuso i fyw bywydau boddhaus a gwerth chweil sy’n rhydd o ddibyniaeth.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.