Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Switch yw gwasanaeth defnydd alcohol a chyffuriau Adferiad ar gyfer pobl ifanc. Mae ein gwasanaeth yn cynnwys Castell-nedd / Port Talbot ac yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth yn rhad ac am ddim i bobl ifanc 11-25 oed. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau’r teulu a effeithir gan ddefnydd sylweddau gan anwylyn. Cynigiwn ofod diogel ar gyfer pobl ifanc i siarad am unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd ganddynt, gyda’r nod o’u helpu i ddeall caethiwed. Rydym eisiau i bobl ifancdeimlo eu bod yn cael eu clywed ac yn cael dweud eu dweud am sut maent yn teimlo am y pethau sy’n effeithio arnynt. Yn gyffredinol, anelai’r gwasanaeth Switch i chwalu’r mythau ac i roi’r wybodaeth gyda’r nod o gael gwared o unrhyw stigma yn ymwneud â gwasanaethau gan wella bywyd pawb a effeithir, a helpu i wella’r cymunedau mae pobl yn byw ynddynt.
Cefnogwn blant a phobl ifanc 11-25 oed. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau’r teulu o bob oed a allai fod yn cael trafferth o ganlyniad i ddefnydd sylweddau anwylyn.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 11 oed ac 25 oed.
Nac oes
Daw atgyfeiriadau drwy’r pwynt cyswllt cyntaf, ein ffôn am ddim ar 0300 7904044. Ond caiff rhai o dan 18 oed eu hatgyfeirio drwy gysylltu â Jane Turner (jane.turner@adferiad.org). Am gefnogaeth i deuluoedd, cysylltwch â rebecca.stevens@adfereiad.org Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod
https://adferiad.org/cym/services/switch/
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru